PET(4)-06-11 p16a
P-03-085 Meddygfeydd yn Sir y Fflint
Geiriad y ddeiseb
Rydym ni feddygon ym Meddygfa’r Laurels, Meddygfa Eyton Place a Chanolfan Feddygol Allt Goch yn rhwystredig (fel yr ydych chi mae’n siwr) oherwydd yr anawsterau a gawn wrth geisio cynnig digon o apwyntiadau ar gyfer ein cleifion.
Fel y gwyddoch, rydym wedi’n cyfyngu’n llwyr gan faint ein hadeilad ac mae gwir angen symud i safle mwy – mewn Canolfan Gofal Sylfaenol newydd os oes modd.
Mae’r cynnydd yn hyn o beth wedi dod i ben yn dilyn penodiad diweddar y Gweinidog Iechyd newydd a hoffem ddod â’n pryderon i’w sylw.
Gofynnwn i chi arwyddo’r ddeiseb hon i gefnogi’n hymdrechion i brysuro’r broses hon;
“Fel cleifion mewn Meddygfa yn Sir y Fflint, gofynnwn i’n Haelod Cynulliad, Mrs Sandy Mewies, roi pwysau ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddatblygu Canolfan Gofal Sylfaenol newydd ar fyrder”
Linc i’r ddeiseb: http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=859&optionId=0
Trefnwyd y ddeiseb gan: Gillian Robinson
Nifer y llofnodion: 412